Deiseb Dylid grymuso rhieni i ddewis: Yr hawl i gael eithriad a chyfranogiad cynhwysol yn y rhaglen Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb

Mae’r ddeiseb hon yn eiriol dros ddewis rhieni a chyfranogiad cynhwysol yn y rhaglen Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb. Mae’n amlygu pwysigrwydd parchu credoau amrywiol, diogelu hawliau rhieni, a galluogi’r dewis i gael eithriad. Nod y ddeiseb yw meithrin dealltwriaeth a pharch, ac atal gwahaniaethu.

Rhagor o fanylion

Diben y ddeiseb hon yw sicrhau dewis i rieni a hyrwyddo cyfranogiad cynhwysol yn y rhaglen Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb. Mae'n cydnabod y credoau amrywiol sydd gan rieni ac yn pwysleisio pwysigrwydd parchu eu hawliau. At hynny, mae’n mynd i'r afael â phryderon ynghylch diffyg dewis i gael eithriad, a allai amharu ar ymreolaeth rhieni. Trwy ddewis cael eithriad, gall rhieni alinio addysg eu plentyn â'u hargyhoeddiadau crefyddol neu bersonol. Mae'r dull hwn yn meithrin amgylchedd mwy cynhwysol sy'n parchu gwerthoedd a chredoau'r holl deuluoedd o dan sylw. At hynny, arwyddocâd cynnal deialog agored, cyd-ddealltwriaeth a pharch at safbwyntiau amrywiol o fewn y rhaglen Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb. Mae'n eirioli dros fframwaith addysgol sy'n osgoi gwahaniaethu, yn cynnal hawliau rhieni, ac yn annog cyfranogiad gweithredol rhieni yn addysg eu plentyn. Drwy sicrhau cydbwysedd rhwng cynwysoldeb ac ymreolaeth rhieni, gall y rhaglen Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb ,ddarparu ymagwedd fwy cynhwysfawr a pharchus at addysg cydberthynas a rhywioldeb.

Llofnodi’r ddeiseb hon

1,749 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon

Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon