Deiseb Dylid rheoleiddio'r sector steilio cŵn, er mwyn diogelu lles cŵn a hawliau perchnogion
Rydym o’r farn y byddai sefydlu canllawiau clir, gofynion trwyddedu a safonau yn y diwydiant yn helpu lles a diogelwch cŵn yn ystod triniaethau steilio. Nid oes fframwaith rheoleiddiol ar gyfer y sector, boed hynny ar lefel awdurdod lleol neu genedlaethol. Nid yw'n dod o fewn goruchwyliaeth unrhyw elusen na'r RSPCA.
Yn ystod y tair blynedd diwethaf gwelwyd twf mawr ym mherchnogaeth cŵn a'r busnesau sy'n diwallu eu hanghenion. Mae'n hen bryd sefydlu safonau.
Rhagor o fanylion
1. Lles Anifeiliaid: Mae'n hanfodol blaenoriaethu lles cŵn a’u trin yn drugarog. Bydd rheoleiddio yn hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol, yn lleihau lefelau straen, ac yn lleihau niwed/anafiadau posibl a achosir gan steilwyr esgeulus neu anghymwys.
2.Hyfforddiant/Ardystio: Mae steilio cŵn heb ei reoleiddio wedi arwain at unigolion anhyfforddedig yn gweithredu heb y wybodaeth angenrheidiol am anghenion bridiau penodol, arferion hylendid, neu weithdrefnau trin a steilio. Dylai meddu ar safon ofynnol o Gymorth Cyntaf Anifeiliaid fod yn elfen ragofynnol.
3. Iechyd a diogelwch: Canllawiau iechyd a diogelwch gofynnol i gynnal amgylchedd diogel. Camau glanweithdra cywir, cynnal a chadw offer a chydymffurfio â phrotocolau hylendid, sy'n hanfodol wrth atal lledaeniad heintiau / parasitiaid / clefydau.
4. Trwyddedu / Archwilio: Hyfforddiant/ardystiad yswiriant a chydymffurfio â rheoliadau iechyd a diogelwch.
5. Gosod safonau: Mae rheoleiddio'n cynnig sicrwydd safonau i berchnogion drwy nodi pa ymarferwyr sy’n gymwys.
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon
Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd