Deiseb a wrthodwyd Adfer taliadau ar gyfer prydau ysgol am ddim (yn seiliedig ar brawf modd) yn ystod yr holl wyliau ysgol

Mae'r gwrthbleidiau'n feirniadol o Lywodraeth Cymru am ddod a phrydau ysgol am ddim i ben yn ystod y gwyliau. Daeth hyn i'r amlwg dair wythnos cyn ddiwedd y tymor.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ei gadael yn hwyr iawn cyn cyhoeddi’r newid i deuluoedd yng Nghymru.

Bydd effaith andwyol y penderfyniad hwn ar deuluoedd yn ystod gwyliau’r haf eleni a gwyliau ysgol yn y dyfodol yn golygu y bydd rhai teuluoedd yn ei chael hi’n anodd ymdopi. Bydd plant yn dioddef ac yn mynd heb fwyd.

Rhagor o fanylion

Derbyniwyd y wybodaeth a ganlyn gan Gyngor Sir Gâr :
Diweddariad pwysig i’r bobl sy’n hawlio Prydau Ysgol am Ddim ❗️
Bellach, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod yr estyniad olaf ar gyfer darpariaeth yn ystod y gwyliau i ddysgwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim wedi dod i ben ar ôl hanner tymor mis Mai.
Yn anffodus, oherwydd cyfyngiadau cyllidebol, ni fydd unrhyw estyniadau ychwanegol, gan gynnwys yn ystod gwyliau’r haf eleni.
Deallwn y bydd hyn yn peri pryder, a hoffem roi sicrwydd fod cymorth yn dal i fod ar gael. Rydym yn annog teuluoedd i fwrw golwg ar yr adnoddau a ganlyn ⬇️
https://crowd.in/qKgAKU

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi