Deiseb Dylid ymyrryd yn natblygiad Parc Arfordirol Penrhos yn gyrchfan wyliau ar Ynys Môn.

Mae hanes yn ailadrodd ei hun yn y pen draw; ym 1957, brwydrodd Aelodau Seneddol Cymru yn erbyn boddi Tryweryn ac eto, mynd rhagddo wnaeth y cynllun i droi’r pentref Cymreig yn adnodd dŵr i Lerpwl.
Heddiw, bwriad Land & Lakes yw adeiladu parc gwyliau newydd dros yr arfordir sy'n gartref i rywogaethau mewn perygl, ac mae wedi cael caniatâd cynllunio gan y cyngor. Er gwaethaf ymdrechion maith gan sefydliadau ac aelodau o'r gymuned i atal y datblygiad, nid yw'r cyngor wedi dirymu’r caniatâd.
Mae Parc Arfordirol Penrhos yn safle hanesyddol yng Nghymru, gyda rhannau o’r goedwig yn dyddio’n ôl i’r 18fed ganrif ac yn gartref i rywogaethau amrywiol o fflora a ffawna.

Rhagor o fanylion

Mae Parc yr Arfordir yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae'r coetir yn gartref i foch daear, llwynogod, madfallod dŵr a gwiwerod coch. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r wiwer goch frodorol wedi bod yn dirywio’n gyflym yn y DU – mae colli cynefinoedd wedi cyfrannu at y dirywiad. Mae hyn oherwydd bod cynlluniau datblygu yn dinistrio, ac yn gwahanu’r coetiroedd naturiol yn yr achos hwn, gan orfodi’r rhywogaethau sydd mewn perygl i dir gwastraff blaenorol, lle na allwn sicrhau bod y rhywogaethau hyn yn ddiogel.
Addawyd yn ôl yn 2021 y byddai ein tir yn cael ei warchod, ac mae bellach yn bryd gweithredu’r addewid hwnnw. Mae tir a hanes Cymru yn unigryw. Pam, felly, ydym ni’n caniatáu dinistrio sylfeini Cymru?
Ffynonellau:
— North Wales Chronicle. (2022). Anglesey nature reserve set to be ‘relocated’ to toxic waste dump to make way for holiday park.
www.penrhosholyisland.co.uk.

Llofnodi’r ddeiseb hon

11,975 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn ystyried y ddeiseb hon ar gyfer dadl

Mae’r Pwyllgor Deisebau yn ystyried pob deiseb sy’n casglu mwy na 10,000 llofnod ar gyfer dadl

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon

Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion

Rhannu’r ddeiseb hon