Deiseb a gaewyd Dylid cyflwyno ffordd i etholwyr bleidleisio i gael gwared ar eu AS cyn diwedd eu tymor

Ar hyn o bryd, nid oes ffordd o gael gwared ar yr Aelodau o’r Senedd ar gyfer eich ardal os nad yw eu hetholwyr yn hapus gyda nhw – ar ôl cael eu hethol, maent yn aros yno am 5 mlynedd oni bai eu bod yn ymddiswyddo’n wirfoddol.
Mae’r ddeiseb hon yn galw ar y Senedd i fabwysiadu trefn adalw (fel y nodir isod), neu rywbeth tebyg, fel y gall etholwyr alw ar AS i adael ei sedd. Yr amodau i sbarduno adalw byddai deiseb ar-lein sydd ag o leiaf 100 o lofnodion gan bleidleiswyr cofrestredig cymwys.

Rhagor o fanylion

Enghraifft o drefn adalw

Dylai’r broses fod yn debyg i Ddeddf Adalw Aelodau Seneddol 2015. Er mwyn i ddeiseb adalw fod yn llwyddiannus, byddai angen i 10 y cant o’r pleidleiswyr cofrestredig cymwys lofnodi’r ddeiseb, a fydd yn arwain yn y pen draw at is-etholiad.

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

2,012 llofnod

Dangos ar fap

10,000