Deiseb a gaewyd Dylai tirfeddiannwyr Cymru – yn yr un modd â Lloegr – allu caniatáu 60 diwrnod y flwyddyn o wersylla mewn pebyll a faniau.

Yn ystod Covid, estynnodd Cymru hawliau tirfeddianwyr i ganiatáu gwersylla mewn pebyll a faniau gwersylla/cartrefi modur o 28 diwrnod y flwyddyn i 56. Yn 2022, dychwelodd hynny i 28 diwrnod ond cynhaliwyd ymgynghoriad ynghylch gwneud cyfraith 56 diwrnod. Mae cyhoeddiad diweddar gan y Senedd wedi gohirio unrhyw newid parhaol. Ym mis Gorffennaf 2023, mae gan Loegr 60 diwrnod o wersylla a ganiateir, gan roi tirfeddianwyr Cymru dan anfantais. Anogaf y Senedd i edrych ar y gwelliannau i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref 2023 ac ystyried eu dwyn i mewn i gyfraith Cymru.

Rhagor o fanylion

Mae’r gwelliant newydd, a basiwyd yn Lloegr ym mis Gorffennaf 2023, yn caniatáu 60 diwrnod o wersylla – gyda hyd at 50 o bebyll a faniau gwersylla/cartrefi modur – y flwyddyn i dirfeddianwyr, yn amodol ar rai rheoliadau newydd: https://www.legislation.gov.uk/cy/uksi/2023/747/article/3/made

Ymateb y Senedd oedd fod yr ymgynghoriad yng Nghymru wedi dod i ben, ac y byddai newidiadau i’r rheolau gwersylloedd dros dro yn cael eu hystyried mewn diweddariad o’r rheolau hawliau cynllunio a ganiateir yn y dyfodol:
https://cofnod.senedd.cymru/WrittenQuestion/87749

Anogaf fod yr adolygiad hwn yn cael ei gynnal yn awr, ac yn ceisio bod mor gyson â phosibl â’r gwelliannau yn Lloegr er mwyn peidio â rhoi tirfeddianwyr Cymreig fel fi – sydd am arallgyfeirio’r defnydd o’u tir er mwyn cynnal incwm yn y cyfnod anodd hwn i bawb – o dan anfantais.

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

430 llofnod

Dangos ar fap

10,000