Deiseb Cyflwyno trwydded e-sigaréts ar gyfer siopau e-sigaréts pwrpasol.
Gall diffyg hyfforddiant a thrwydded achosi i gynhyrchion anaddas a dyfeisiau anghyfreithlon gael eu gwerthu, a all fod yn beryglus a llesteirio'r siawns o roi’r gorau i ysmygu. Mae yna hefyd gynhyrchion fêpio ffug ac anghyfreithlon ar y farchnad nad ydynt yn cydymffurfio â rheoliadau'r DU, sy'n berygl i'r cyhoedd. Dylai mangreoedd trwyddedig sydd wedi'u hawdurdodi i werthu e-sigaréts helpu i fynd i’r afael â hyn gan eu bod yn prynu'n uniongyrchol gan gyflenwyr trwyddedig, felly ni fydd y cynhyrchion y maent yn eu gwerthu yn rhai ffug neu’n cael eu prynu'n rhad ar y farchnad ddu i wneud elw cyflym.
Rhagor o fanylion
Rydyn ni am i gynhyrchion fêpio gael eu gwerthu mewn siopau trwyddedig penodol sydd â staff hyfforddedig sy'n arbenigo mewn cynhyrchion o’r fath a phob agwedd arall ar fêpio, yn ogystal â Therapi Disodli Nicotin (NRT), gan gynnwys gwybodaeth am wahanol gynhyrchion, i'w galluogi i weithio gyda'r cyhoedd i gynyddu cyfraddau rhoi’r gorau i ysmygu yn llwyddiannus.
Ar hyn o bryd, mae siopau e-sigaréts yn cydymffurfio â gofynion Safonau Masnach i’w galluogi i fasnachu. Mae llawer o staff yn ymarferwyr achrededig y Ganolfan Genedlaethol Rhoi’r Gorau i Ysmygu a Hyfforddiant, sy’n golygu eu bod yn gallu rhannu gwybodaeth ymarferol a chyngor am therapi disodli nicotin.
Mae rhieni'n anhapus gan fod rhai manwerthwyr yn gwerthu e-sigaréts i bobl ifanc o dan 18 oed. Mae hyn yn effeithio’n andwyol ar y diwydiant e-sigaréts wrth iddo weithio tuag at Gymru ddi-fwg. Mae defnyddio e-sigaréts yn gam tuag at ysmygu, felly nid yw'n rhywbeth y dylai pobl ifanc fod yn ei wneud.
Gyda chyfraddau llwyddiant mor uchel yn y diwydiant e-sigaréts o ran helpu pobl i roi'r gorau i ysmygu, mae angen cydnabod y diwydiant ac mae’n rhaid cyflwyno trwydded am resymau diogelwch ac i sicrhau bod e-sigaréts yn cael eu gwerthu'n gyfrifol.
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon
Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd