Deiseb a gwblhawyd Cyflwyno opsiwn prawf ceg y groth yn y cartref yng Nghymru

Canser ceg y groth yw'r math mwyaf cyffredin o ganser mewn menywod o dan 35 mlwydd oed. Yn ôl Cancer Research UK, mae modd atal 99.8% o achosion yn y DU. Gall profion ceg y groth achub bywydau drwy ganfod unrhyw newidiadau cyn-ganseraidd yn gynnar pan fydd triniaethau’n fwy effeithiol.

Ar hyn o bryd mae rhwystrau sy'n atal menywod a'r rhai a bennwyd yn fenywod adeg eu geni rhag cael mynediad at y gwasanaeth hwn. Yn Lloegr cynhaliwyd rhai treialon profion ceg y groth yn y cartref, a chredwn y gall yr opsiwn hwnnw yng Nghymru helpu i chwalu’r rhwystrau hyn ac achub bywydau.

Rhagor o fanylion

Mae rhesymau pam nad yw menywod yn mynd i gael eu profion sgrinio ceg y groth. Gall y rhesymau gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i,:-
Embaras
Diffyg addysg
Nid yn uniaethu fel menyw
Canfyddiadau isel o risg
Diffyg ymddiriedaeth mewn gwasanaethau iechyd
Rhwystrau diwylliannol
Pryder am y prawf
Problemau o ran delwedd y corff
Trawma - ymosodiad rhywiol, treisio
Amseroedd anghyfleus o ran apwyntiadau

Cafodd ei dreialu yn Llundain yn 2021. Dywedodd Dr Anita Lim, o King's College Llundain, sy'n arwain y treial YouScreen:
"Mae'n hanfodol ein bod yn dod o hyd i ffyrdd fel hyn o wneud sgrinio'n haws, ac amddiffyn menywod rhag canser y gellir, i raddau helaeth, ei atal. Mae hunan-samplu yn rhywbeth cyffrous iawn. Mae'r swab syml a chyfleus hwn yn golygu y gellir ei wneud ym mhreifatrwydd a chysur eich cartref eich hun."

Dywedodd Molly Fenton, un sy’n gweithredu dros hawliau menywod yng Nghymru: "Yn ddelfrydol, mae angen i lawer o bethau newid: gwell addysg, sgyrsiau sy'n dileu stigma, a sicrwydd ynghylch y prawf, ond yn y tymor byr gallai hyn achub llawer o fywydau ifanc. Gall achub, yn enwedig, fywydau ifanc 25 mlwydd oed sy'n cael y prawf am y tro cyntaf."

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

1,543 llofnod

Dangos ar fap

10,000