Deiseb Atal datblygiadau newydd sylweddol ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Gwastadeddau Gwent

Mae Gwastadeddau Gwent yn dirwedd hynafol sy’n gyfoethog o ran diwylliant ac sy’n bwysig ar gyfer bioamrywiaeth, hamdden, lliniaru effeithiau llifogydd, storio carbon a chynhyrchu bwyd. Mae bellach yn wynebu cynigion i ddatblygu sawl cynllun ynni solar enfawr cyfagos, ymhlith cynigion datblygu eraill. Ni all system gynllunio Cymru yn ei ffurf bresennol reoli datblygiadau o’r fath, a byddai’r dinistr y byddai’r datblygiadau hyn yn ei achosi o dan y trefniadau presennol yn rhoi diwedd ar y gwlyptir hardd, bregus a chymhleth hwn.

Rhagor o fanylion

Mae pwysau cynyddol am ddatblygiadau ynni solar ar raddfa gyflym iawn, yn ogystal â datblygiadau eraill (fel parciau busnes), ar SoDdGA Gwastadeddau Gwent, yn ogystal â methiant systemig a hirsefydlog i'w reoli. Er enghraifft, mae’r ymdrechion i symud neu hyd yn oed liniaru’r difrod difrifol a achoswyd gan yr unig fferm solar a adeiladwyd yno hyd yma (yn Llanwern), drwy ddefnyddio amodau cynllunio, wedi methu. Mae’n ddigon posibl bod lefelau llygredd yn y safle ac yn agos ato wedi cynyddu. Mae cornchwiglod, aderyn prin sy'n nythu yng Nghymru, wedi'u gyrru i ddifodiant yno. Newid hinsawdd yw’r prif fygythiad i fioamrywiaeth yn fyd-eang. Mae angen gweithredu ar y cyd ym mhob maes polisi, gan gynnwys ynni adnewyddadwy – ond ni ddylai hyn ddod ar draul bioamrywiaeth. Mae Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn drysorau: Maent yn safleoedd o bwysigrwydd ledled y DU sydd wedi’u dynodi’n statudol ar gyfer bywyd gwyllt. Gan gwmpasu dim ond 12 y cant o dir Gymru, ni ddylid eu targedu ar gyfer datblygiadau adeiledig mawr, pan fo miloedd o hectarau o dir a thoeau ledled Gwent a Chymru yn llawer mwy addas.

Llofnodi’r ddeiseb hon

2,572 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon

Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon