Deiseb a wrthodwyd Ei gwneud yn ofynnol i bob bwyd a gaffaelir yn gyhoeddus yng Nghymru fod yn llysieuol neu'n fegan

Mae'r argyfwng natur a’r argyfwng hinsawdd yn ei gwneud yn ofynnol i ni wneud newidiadau sylweddol ym mhob agwedd ar ein bywydau. Un o'r newidiadau ymarferol mwyaf y gallwn ei wneud fel pobl ac fel sefydliadau yw newid o ddeiet o gig i ddeiet sy'n seiliedig ar blanhigion yn unig.
Mae newid ein diet hefyd yn lleihau'r tebygolrwydd y bydd rhagor o ddiraddio ecosystemau yn sgil newidiadau i’r defnydd o dir i hwyluso bwyta rhagor o gig.

Rhagor o fanylion

Mae manteision ychwanegol ar gyfer iechyd pobl: mae deietau sy’n seiliedig ar blanhigion yn osgoi effeithiau posibl ar iechyd o fwyta cig.
Byddai newid prosesau caffael i'w gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru brynu prydau sy'n seiliedig ar blanhigion yn unig yn ei gwneud hi’n haws i bobl wneud penderfyniadau iach, a byddai'n lleihau effaith y system caffael cyhoeddus yng Nghymru ar yr hinsawdd ac ar natur.
Mae'r dystiolaeth ar yr effeithiau ar iechyd wedi'i hamlygu mewn nifer o gyhoeddiadau; dyma erthygl newyddion berthnasol: https://www.theguardian.com/food/2021/mar/02/eating-meat-raises-risk-of-heart-disease-diabetes-and-pneumonia.
Amlygir y dystiolaeth am effaith newid i ddeiet planhigion ar yr hinsawdd mewn nifer o gyhoeddiadau fel: https://phys.org/news/2022-01-plant-based-diets-carbon-footprint-capture.html.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi