Deiseb a gaewyd Dylid darparu cynnig cyfatebol yng Nghymru i’r cynnig gofal plant newydd yn Lloegr, sef 15 awr, ar gyfer plant 2 flwydd oed o fis Ebrill 2024

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y gall holl rieni plant dwyflwydd oed sy'n gweithio gael hyd at 15 awr o ofal plant am ddim o fis Ebrill 2024.
Ni fydd y budd hwn yn gymwys i bob teulu sy'n gweithio yng Nghymru, fodd bynnag, gan na fydd y rhaglen "Dechrau'n Deg" gyfatebol yn ehangu i bob ardal. Ystyr hyn yw fod teuluoedd Cymru filoedd o bunnoedd yn waeth eu byd na chymheiriaid yn Lloegr, er gwaethaf honiadau gan y Prif Weinidog fod y cynnig yng Nghymru yn "well" gan ei fod yn cynnig 48 wythnos yn hytrach na 38 wythnos ar gyfer plant 3 a 4 mlwydd oed.

Rhagor o fanylion

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

407 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Cynhaliwyd dadl yn y Senedd ar y pwnc hwn

Cynhaliwyd dadl ar y pwnc hwn ar 31 Ionawr 2024

Gwyliwch y ddeiseb ‘Dylid darparu cynnig cyfatebol yng Nghymru i’r cynnig gofal plant newydd yn Lloegr, sef 15 awr, ar gyfer plant 2 flwydd oed o fis Ebrill 2024’ yn cael ei thrafod

Trafodwyd y ddeiseb gan y Senedd yn y Cyfarfod Llawn ar 29 Ionawr 2024.