Deiseb a gaewyd Dylid cynnig yr un cymorth ariannol ar gyfer gofal plant i rieni sy'n gweithio yng Nghymru â’r hyn sydd ar gael yn Lloegr

Yn Lloegr, o fis Ebrill 24, bydd pob rhiant sy'n gweithio â phlant 2 oed yn cael 15 awr o ofal plant am ddim. O fis Medi 24, bydd hyn yn cael ei estyn i rieni â phlant 9 mis oed a hŷn. O fis Medi 25, bydd nifer yr oriau o ofal plant am ddim yn cynyddu i 30.
Mewn cymhariaeth, yng Nghymru, bydd yn cymryd tan fis Medi 25 i ddarparu 12.5 awr o ofal plant am ddim i bob rhiant â phlant 2 oed. A hynny heb gynllun ar waith i rieni â phlant 9 mis oed a hŷn na chynyddu nifer yr oriau i 15 neu 30.
Rydym mewn argyfwng costau byw lle y mae gan Lywodraeth Cymru y gallu i gefnogi rhieni sy'n gweithio ond nid yw’n gwneud hynny.

Rhagor o fanylion

Mae Llywodraeth Cymru yn dewis peidio â chyflwyno'r 12.5 awr o ofal am ddim i rieni â phlant 2 oed fel y cynllun presennol sy’n cynnig 30 awr o ofal plant am ddim i rieni â phlant 3 oed. Yn hytrach, Dechrau'n Deg sy’n arwain. Mae hyn yn fwy cymhleth oherwydd ei bod yn golygu bod yn rhaid i chi aros i'ch cod post fod yn gymwys yn lle bod ar gael i bawb. Ac mae'n rhaid i ddarparwyr gofal plant gofrestru gyda Dechrau'n Deg cyn hawlio’r arian ar gyfer y 12.5 awr.
Y syniad y tu ôl i hyn yw y bydd Dechrau'n Deg yn gwneud i ddarparwyr gofal plant ddarparu gofal o ansawdd uwch i greu canlyniadau gwell i bob plentyn. Ond mae pob darparwr gofal plant cofrestredig yn cael arolygiadau rheolaidd ac mae'r canlyniadau ar gael ar-lein, felly mae modd cael gwybod am yr ansawdd cyn gwneud cais i'r lleoliad.
Yn ogystal, mae plant o ardaloedd "difreintiedig" yng Nghymru lle y mae angen y gofal bob amser wedi cael eu cynnwys gan Dechrau'n Deg ac felly maent yn gymwys i gael y cynnig gofal plant pan fyddant yn 2 oed i helpu i wella eu canlyniadau.

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

10,820 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Cynhaliwyd dadl yn y Senedd ar y pwnc hwn

Cynhaliwyd dadl ar y pwnc hwn ar 31 Ionawr 2024

Gwyliwch y ddeiseb ‘Dylid cynnig yr un cymorth ariannol ar gyfer gofal plant i rieni sy'n gweithio yng Nghymru â’r hyn sydd ar gael yn Lloegr’ yn cael ei thrafod

Trafodwyd y ddeiseb gan y Senedd yn y Cyfarfod Llawn ar 31 Ionawr 2024.