Deiseb a wrthodwyd Caniatáu gwersylla gwyllt yn ein Parciau Cenedlaethol a hefyd wrth ymyl llwybrau cyhoeddus ledled Cymru.

Mae pandemig Covid wedi dangos pa mor bwysig yw cael mynediad at gefn gwlad a natur. Gall harddwch naturiol Cymru fod yn hynod fuddiol i’n hiechyd corfforol a meddyliol.
Credwn y byddai trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd yn elwa o gael mynediad at leoedd fel ein llwybrau arfordirol a llwybrau Clawdd Offa ac y byddai hyn yn ei dro yn helpu i gefnogi ein busnesau a’n heconomi ehangach.
Mae’r Alban eisoes wedi dangos y gall hawliau gwersylla gwyllt fod yn boblogaidd ac yn gynaliadwy.

Rhagor o fanylion

Dylai ein hadnoddau naturiol fod yn hygyrch i bawb.
Mae gormod o bobl yng Nghymru wedi’u cyfyngu i lwybrau a ffyrdd yn ein trefi a’n dinasoedd, sy’n aml yn llygredig. Byddai agor ein cefn gwlad i bawb yn caniatáu i bobl ddysgu caru ei fywyd gwyllt gwerthfawr ac ymrwymo i'w warchod.
Ond gyda'r hawl hon, byddem hefyd yn disgwyl i bobl fabwysiadu polisi "gadael dim ôl troed" er mwyn gwarchod ein cefn gwlad.
Byddem yn awgrymu y byddai'r hawl gwersylla gwyllt hwn yn berthnasol i warbacwyr yn unig, ac am uchafswm o un noson mewn unrhyw leoliad penodol i osgoi unrhyw annifyrrwch yn yr ardal leol.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi