Deiseb a gaewyd Dylid gwneud y mynediad i Ardd Gudd A4042 Goetre Fawr yn ddiogel ar gyfer cerddwyr a cherbydau

Mae hon yn ganolfan arddio boblogaidd gydag ystafelloedd te prysur. Mae mynediad i'r ganolfan oddi ar yr A4042 (50 milltir yr awr, yma) wedi'i farcio'n wael gyda dwy lôn tua'r gogledd yn lleihau i un. Mae gwrthdrawiadau yn digwydd yn aml.

Mae gyrwyr sy'n gadael y ganolfan arddio yn rhydd i droi i'r ddau gyfeiriad. Mae ceir yn aml yn dod allan yn rhy araf neu'n arafu, gyda thraffig yn effeithio arnynt; rhywbeth arall sy’n peri damweiniau.
Nid oes mynediad yma i bobl gerdded o bentref cyfagos Little Mill. Nid yw'r gyffordd yn cefnogi teithio llesol.

Rhagor o fanylion

Mae gwrthdrawiadau'n digwydd yn aml, ac achosion sydd bron â bod yn ddamweiniau’n digwydd yn fwyfwy aml. Mae peth wmbreth o wrthdrawiadau yma.
Ddoe (sef 9 Awst), gwrthdarodd dau gar tua 5:25pm gyda’r ffordd ar gau i’r ddau gyfeiriad, a dargyfeiriadau drwy Little Mill. Cyn hynny, ar 4 Mehefin 2023, bu dau gar mewn gwrthdrawiad tua c. 7:00 am yn ystod oriau brig y bore gan achosi oedi i'r ddau gyfeiriad. Yn ffodus ddigon, doedd dim anafiadau difrifol ar y naill achlysur na'r llall, dim ond teithwyr a gyrwyr wedi'u trawmateiddio. Mae hyn yn rhoi pwysau diangen ar ein gwasanaethau brys, sy’n profi digon o bwysau fel ag y mae.
Rwy'n teimlo'n siŵr y bydd ystadegau ffyrdd yn cadarnhau cymaint o fan gwan yw'r safle hwn.
Mae gwrthdrawiadau oriau brys yn achosi trallod i bawb a llygredd aer ychwanegol.

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

265 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Busnes arall y Senedd

Llofnodion ar bapur

Yn ogystal â'r ddeiseb ar-lein, mae'r ddeiseb yma wedi bod yn casglu llofnodion ar bapur ac wedi casglu 965 o lofnodion ar bapur. Sef cyfanswm o 1,230 lofnodion.