Deiseb a wrthodwyd Gwneud grantiau gwisg ysgol yn orfodol ar gyfer plant ysgol uwchradd sydd ag anghenion ychwanegol

Oherwydd y cynnydd yng nghostau cyflenwadau a gwisgoedd ysgol, rwy’n galw am grant i fod ar gael i bob disgybl o oedran ysgol uwchradd sydd ag anghenion ychwanegol neu arbennig. Mae rhieni nad ydynt yn gymwys ar gyfer y grantiau gwisg ysgol oherwydd eu bod yn gweithio yn aml yn cael trafferth talu am wisgoedd ysgol costus. Mewn rhai achosion, mae angen setiau ychwanegol o ddillad neu ddillad wedi’u haddasu’n arbennig ar blant neu bobl ifanc.

Rhagor o fanylion

Er enghraifft, ni allaf ddod o hyd i drowsus yn y siopau arferol ar gyfer fy mab 15 oed sy’n dal iawn, ac mae pob pâr yn costio £40 yr un. Oherwydd ei anghenion ychwanegol, bydd yn mynd drwy fwy o barau o drowsus na’r rhan fwyaf o fechgyn o’r un oedran. Rwyf wedi ceisio gwneud cais am y grant gwisg ysgol gan Gyngor Wrecsam ond cafodd ei wrthod gan nad yw fy mab yn cael prydau ysgol am ddim ac nad ydym yn cael budd-daliadau. Fel llawer o deuluoedd eraill, rydym yn ei chael hi'n anodd talu’r costau ychwanegol hyn ac ni allwn gael gafael ar unrhyw gymorth ariannol.
Mae angen i Lywodraeth Cymru ailystyried ei pholisïau i sicrhau bod teuluoedd mewn angen yn cael eu cefnogi.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi