Deiseb a wrthodwyd Rhaid diddymu'r ffi o 10% ar bris gwerthu cartrefi symudol preswyl a delir i berchnogion safleoedd

Mae byw mewn parc cartrefi symudol preswyl yn ffordd wych o fyw i nifer ohonom sydd wedi ymddeol, ond credwn ei bod hi’n annheg bod rhaid talu ffi o 10% ar y pris gwerthu i berchennog y safle, a ninnau eisoes yn talu ffi fisol i ddefnyddio’r safle. Mae’r gofyniad i dalu’r swm ychwanegol hwn ar ôl gwerthu cartref symudol preswyl yn cyfyngu ar ein hopsiynau yn y dyfodol. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’n golygu bod rhaid symud i gartref llai o faint, symud i ardal ratach neu brynu cartref hŷn y gallai fod angen gwario arian arno i sicrhau ei fod yn cyrraedd y safon.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi