Deiseb a wrthodwyd Gosod terfyn o 5 y cant o dai ar y farchnad i’w defnyddio fel ail gartrefi neu gartrefi gwyliau
Mewn 20 mlynedd, mae pris tai ar gyfartaledd yng Nghymru wedi codi o £78,000 i £213,000, sef cynnydd o 173%. Dim ond 67 y cant oedd chwyddiant dros yr un cyfnod.
Mae hyn yn bennaf oherwydd faint o gartrefi gwyliau ac ail gartrefi a brynwyd ledled Cymru, gan godi prisiau ym mhobman a gorfodi pobl leol o’r cymunedau lle y’u magwyd.
I fynd i’r afael â hyn, dylem sicrhau bod 95 y cant o’r holl gartrefi ar y farchnad yn cael eu cadw ar gyfer trigolion Cymru yn unig. Byddai uchafswm o 5 y cant o’r farchnad ar gael ar gyfer cartrefi gwyliau neu ail gartrefi.
Mae system debyg yn bodoli yn Guernsey, gan arwain at farchnad leol sy’n llawer mwy fforddiadwy. https://guernseyrelocation.com/guernseys-housing-system/
Yng Nghymru, gwelodd yr ardaloedd arfordirol gynnydd llawer mwy sydyn mewn prisiau. Er enghraifft, mae poblogaeth Abersoch, Gwynedd, yn tyfu o 600 i 30,000 ym misoedd yr haf, gan fynd â’r prisiau ar gyfartaledd y tu hwnt i £500,000—ffigur na all trigolion lleol ei fforddio.
Mae’r anghydraddoldeb hwn yn effeithio ar ardaloedd incwm is yn fwy nag unrhyw le arall, gan ddistrywio cymunedau Cymru. Ar ben hyn, mae tair gwaith yn fwy o gartrefi gwyliau yng Nghymru nag o bobl mewn perygl o ddigartrefedd. Sut gall hyn fod yn dderbyniol?
Ar ben hyn, dylai unrhyw ail gartrefi neu gartrefi gwyliau, hyd yn oed os ydynt yn cael eu prynu gan bobl leol, gael eu prynu ar y farchnad agored i sicrhau bod y farchnad leol yn parhau’n fforddiadwy.
Rhaid i ni roi diwedd ar yr argyfwng tai hwn, unwaith ac am byth.
Rhagor o fanylion

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Cafodd y ddeiseb hon ei thynnu yn ôl gan y deisebydd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi