Deiseb a gwblhawyd Rydym am i Lywodraeth Cymru ddiddymu’r gyfraith drychinebus ynghylch y terfyn cyflymder o 20mya

Bydd y gyfraith newydd ynghylch y terfyn cyflymder o 20mya yn dod i rym ar 17 Medi, a chyda hynny y gwelir diwedd ar gyfnod sosialaeth mewn grym yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn honni bod ganddi dystiolaeth sy’n ategu’r ddadl bod gostwng y terfyn cyflymder i 20mya YM MHOB MAN yn achub bywydau! Ac eto, rydym yn gweld taflenni sydd ond yn honni y bydd hyn yn digwydd, ynghyd â sylwadau gan feddygon sy’n gweld pobl sy’n dod i adrannau damweiniau ac achosion brys o ganlyniad i wrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd. NID yw hyn yn dystiolaeth. Daw’r unig wir dystiolaeth o Belfast, ac mae'r dystiolaeth honno’n datgan NAD OES DIM GWAHANIAETH o ran gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd!

Rhagor o fanylion

Yn wir, gwnaeth un o'r pentrefi yn Sir Fynwy lle cafodd y drefn newydd ei threialu roi’r gorau iddi gan ei bod yn troi’r ffyrdd yn draed moch llwyr! Mae Mark Drakeford wedi honni bod y drefn newydd wedi bod yn llwyddiant yn Saint-y-brid, ond bob tro dwi'n mynd yno, nid oes NEB yn gyrru ar gyflymder o 20mya.
Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu UNRHYW dystiolaeth argyhoeddiadol i gefnogi'r honiadau ynghylch diogelwch. Adran newid hinsawdd Llywodraeth Cymru sy'n hyrwyddo'r gyfraith newydd hon, NID iechyd a diogelwch.
NID YDYCH WEDI GWRANDO ARNOM.
Rhoddwyd Llywodraeth Cymru yn ei lle GAN BOBL CYMRU; ni yw eich pennaeth! Rydym yn mynnu bod y syniad hurt hwn yn cael ei atal.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

469,571 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn ystyried y ddeiseb hon ar gyfer dadl

Mae’r Pwyllgor Deisebau yn ystyried pob deiseb sy’n casglu mwy na 10,000 llofnod ar gyfer dadl