Deiseb a gaewyd Achub y ddarpariaeth mân anafiadau dros nos yn Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi nodi ei fod yn bwriadu cau ei Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Nevill Hall dros nos. Bydd hyn yn golygu mai dim ond un Uned Mân Anafiadau fydd ar agor rhwng 1am a 7am yn ardal gyfan y bwrdd iechyd – yn Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd.
Byddai’r newid hwn yn cynyddu amseroedd teithio yn sylweddol i drigolion ym Mlaenau Gwent, Sir Fynwy, Torfaen a rhannau o Gaerffili. Byddai’r newid yn gwneud Ysbyty Brenhinol Gwent ac Ysbyty y Faenor yn fwy prysur fyth.

Rhagor o fanylion

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

5,182 llofnod

Dangos ar fap

10,000