Deiseb a gaewyd Cynnal arolwg diduedd o’r trigolion sy'n byw yn ardaloedd y cynllun peilot ar gyfer terfyn cyflymder o 20mya

O haf 2021 ymlaen, cynhaliodd Llywodraeth Cymru gynllun peilot i ostwng y terfyn cyflymder diofyn mewn ardaloedd trefol o 30mya i 20mya. Cynhaliwyd y cynllun peilot hwn mewn sawl ardal o amgylch Cymru, sef: y Fenni, Sir Fynwy; Canol Gogledd Caerdydd; Glan Hafren, Sir Fynwy; Bwcle, Sir y Fflint; Pentref Cilfriw, Castell-nedd a Phort Talbot; Llandudoch, Sir Benfro; Saint-y-brid, Bro Morgannwg; a Gogledd Llanelli, Sir Gaerfyrddin.

Rhagor o fanylion

O 17 Medi 2023, mae’r terfyn cyflymder is o 20mya mewn ardaloedd trefol bellach wedi dod yn gyfraith gwlad.
Fodd bynnag, nid oes unrhyw un wedi gofyn barn y bobl a oedd yn byw yn ardaloedd y cynllun peilot, gan gynnwys gofyn a ydynt o’r farn bod y cynllun peilot wedi llwyddo neu fethu, a gadwyd at y terfyn cyflymder neu a gafodd ei anwybyddu, ac a gafodd y newid ei blismona ai peidio. Nid oes unrhyw un wedi gofyn i yrwyr sy'n dysgu neu yrwyr ifanc sydd â dyfeisiau monitro cyflymder wedi'u gosod yn eu cerbydau sut y gwnaethant ymdopi â'r newid cyflymder. Nid oes unrhyw un wedi gofyn i bobl sy'n gweithio yn yr ardaloedd hyn sut mae’r newid wedi effeithio arnynt. Nid oes unrhyw un wedi gofyn i berchnogion busnesau a ydynt o’r farn bod newid y terfyn cyflymder wedi effeithio ar eu busnesau neu niferoedd cwsmeriaid. Mae’n rhaid bod y wybodaeth hon yn hanfodol wrth geisio deall i ba raddau y bu’r cynllun peilot yn llwyddiant ai peidio. Felly, rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal arolwg o drigolion a busnesau o fewn ardaloedd y cynllun peilot, gan gynnwys adran i bobl ddweud eu dweud a gwneud awgrymiadau am y cynllun.

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

779 llofnod

Dangos ar fap

10,000