Deiseb a wrthodwyd Caniatáu bwyd ar bresgripsiwn i blant ac oedolion sydd ag alergedd difrifol i fwyd ac alergeddau i nifer o fwydydd

Mae ein mab wedi dioddef o alergeddau difrifol ers iddo gael ei eni. Hyd yn hyn, mae ganddo alergedd i 17 o fwydydd y gwyddom amdanynt, a gallai rhai o’r alergeddau hynny beryglu ei fywyd. Nid yw’n gallu cael llaeth, gwenith, wyau, soia, protein pys, banana na phinafal, ac enwi dim ond ychydig. Mae’n anodd iawn dod o hyd i fwydydd diogel ac mae’n gostus iawn dod o hyd i fara, pasta, iogwrt a bwydydd eraill. Er mwyn cael presgripsiwn am y mathau hyn o fwyd, cawsom wybod yn ddiweddar y byddai angen bod ganddo gyflwr awto-imiwn yn hytrach na ‘dim ond alergeddau’.

Rhagor o fanylion

Dylai’r presgripsiynau bwyd hyn fod ar gael i blant ac oedolion sy'n dioddef o alergeddau i nifer o fwydydd ac alergedd difrifol, gan fod angen iddynt osgoi’r bwydydd hyn i gadw'n iach ac mewn sawl achos, i aros yn fyw. Ni allaf hyd yn oed roi unrhyw beth i'm mab sy’n dweud ‘y gallai gynnwys’ llaeth, wyau, cnau, gwenith, soia neu unrhyw beth arall y mae ganddo alergedd iddo. Helpwch ni i newid hyn er mwyn helpu ein mab a phawb arall sy’n dioddef o alergeddau. Gyda'n gilydd, gallwn newid pethau. Diolch am ddarllen.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi