Deiseb a wrthodwyd Gwneud pob cyngor yn gyfrifol am sganio a chadw’r anifeiliaid sy’n marw ar y ffordd.

Nid yw cynghorau gan gynnwys Caerdydd yn sganio nac yn cadw’r anifeiliaid, gan gynnwys cathod, y maent wedi eu casglu.
Yn hytrach na hynny, maent weithiau yn rhoi disgrifiad byr o’r anifail ac yn cael gwared â’r corff yn y gwastraff cyffredinol.

Rhagor o fanylion

Nid yw hyn yn rhoi unrhyw gysur i bobl sydd wedi colli eu hannwyl anifail anwes ac na fydd byth yn gwybod beth sydd wedi digwydd iddo!
Mae rhai cynghorau fel Bro Morgannwg yn dal i sganio anifeiliaid a’u cadw am 7 niwrnod, a dylid gorfodi pob cyngor i wneud hyn o ran parch at yr anifail a’r perchennog.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi