Deiseb a wrthodwyd Talu cymhorthdal yswiriant cerbydau i holl berchnogion cerbydau yng Nghymru sydd wedi wynebu cynnydd o 30 y cant yng nghost eu polisïau.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud yn bendant bod gostwng y terfyn cyflymder i 20mya yn fwy diogel ac y bydd yn arbed miliynau o bunnoedd i'r Gwasanaeth Iechyd, ac eto mae perchnogion cerbydau wedi wynebu cynnydd o 30 y cant yng nghost yswirio eu cerbydau. Os yw Llywodraeth Cymru mor sicr y bydd cymryd y cam hwn yn arwain at lai o ddamweiniau, yna byddai cymhorthdal yn rhyw ffordd o fodloni dinasyddion Cymru sydd o blaid a’r rhai sydd yn erbyn y terfyn cyflymder gwirion newydd hwn.
Rhagor o fanylion
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud wrthym yn ddi-baid y bydd y terfyn cyflymder 20mya (er bod mwyafrif Cymru yn ei wrthwynebu) yn arwain at lai o wrthdrawiadau ac yn achub bywydau, ac (yn gyfeiliornus, yn fy marn i) y bydd o fudd i’r amgylchedd. Fodd bynnag, mae’r Llywodraeth wedi methu â chydnabod y dylai’r ffactorau hyn gyfrannu at bremiwm yswiriant is, a hynny am y rhesymau honedig nad yw'n gallu eu profi.
Byddai rhoi cymhorthdal i helpu i dalu cost yswiriant perchnogion cerbydau Cymru yn mynd yn bell.
Rhowch gymhelliant i yrwyr gydymffurfio â’r penderfyniad totalitaraidd i weithredu’r gyfraith 20mya.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi