Deiseb a wrthodwyd Dylid mabwysiadu system pleidlais sengl drosglwyddadwy ar gyfer seddau’r Senedd

Mae diwygiadau’r Senedd a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn nodi’r cynllun i gynyddu nifer seddau’r Senedd i 96.
Byddai’r seddau hyn yn cael eu hethol drwy system rhestr gaeedig lle y byddem yn pleidleisio dros bleidiau yn hytrach na phobl.
Mewn system rhestr gaeedig, nid yw’r etholwyr yn gwybod pwy yw’r ymgeiswyr ac mae bron yn amhosibl i ymgeiswyr annibynnol ennill.
Mewn system pleidlais sengl drosglwyddadwy, byddai’r ymgeiswyr yn gyhoeddus a byddai’n haws i ymgeiswyr annibynnol.

Rhagor o fanylion

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi