Deiseb a gaewyd Dylid gwneud hyn yn amod cyflogaeth ar gyfer Aelodau o’r Senedd – rhaid iddyn nhw ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn unig ar gyfer pob taith.

Mae'r agenda gwrth-gar, gwrth-fodurwyr bresennol yn groes i ddymuniadau pobl Cymru. Mae angen ein ceir. Mae angen inni fynd yn gyflymach nag 20 mya. Mae trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru yn rhy araf, heb fod ar yr adegau y mae ei hangen arnom, heb ddigon o gyrchfannau, nid yw’n ddibynadwy, nid yw’n fforddiadwy, nid yw’n ymarferol ar gyfer cludo offer trwm. Mae angen gorfodi Aelodau o’r Senedd i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer pob taith, fel eu bod yn ei hunioni ar gyfer pawb. Ni ddylid caniatáu iddynt deithio mewn car. Dylent brofi rhwystredigaeth system drafnidiaeth Cymru.

Rhagor o fanylion

Mae’r Senedd yn ei gwneud hi’n anoddach o hyd inni fyw ein bywydau gan ddefnyddio ceir. Mae eu cynllun 20 mya newydd yn achosi i fusnesau weithio'n hirach ac yn galetach, mae teuluoedd yn treulio llai o amser gyda'i gilydd oherwydd bod rhieni a phlant, bellach, yn gorfod caniatáu amser ychwanegol i gyrraedd y gwaith a'r ysgol. Ni all gofalwyr weld cleifion am gyhyd. Dywed y Senedd eu bod am annog y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, ond nid yw'n addas i'r diben. Ni all pobl sy'n gweithio oriau anghonfensiynol gydag offer trwm deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus. Nid yw ardaloedd gwledig yn cael eu gwasanaethu. Nid oes unrhyw doiledau cyhoeddus yn y rhan fwyaf o arosfannau bysiau neu arosfannau trên. Mae angen i Aelodau o’r Senedd brofi realiti bywyd heb gar. Rhaid peidio â chaniatáu i’r Prif Weinidog gael car chauffeur tra ei fod yn pregethu ar feicio.

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

1,359 llofnod

Dangos ar fap

10,000