Deiseb a wrthodwyd Rydym am i Lywodraeth Cymru ychwanegu diwygiad sy'n dweud 'croeso am y terfyn cyflymder'

Rydym yn credu bod y gefnogaeth i'r ddeiseb yn erbyn y terfyn cyflymder newydd yn creu camargraff o wrthwynebiad.

Mae angen i ddewis i'r rhain ohonom ni sy'n cefnogi'r penderfyniad.

Fel democratiaeth, dylai'r corff gwneud penderfyniadau (Senedd Cymru) yn rhoi caniatâd i'r bobl i ofyn am ddiwygiad sy'n dweud 'croeso am y terfyn cyflymder' er mwyn dangos cefnogaeth.

Rhagor o fanylion

Er bod tystiolaeth o Belffast yn dweud nid oes gwahaniaeth, does dim digon o dystiolaeth tymor hir i'w edrych amdani.

Mae'r gwrthwynebwyr yn hefyd dweud fe fydd yn costio £4.5 milfiliwn i economi Cymru yn ôl tystiolaeth o'r llywodraeth ei hun ond mae'r dystiolaeth yn bellach gallu bod yn wallus oherwydd cyfrif pob taith - 'hyd yn oed taith i'r parc lleol'. (Mae'r costau yn yr adroddiad yn hapfasnachol)

Rydym yn credu a fydd yn fwy cywir i roi sylw i'r gost gyntaf bach o £32 miliwn er mwyn arbed £92 miliwn i'r GIG pob blwyddyn!

Peidiwch ag anghofio fe fydd y gyfraith newydd fod yn anghymhelliad i bobl a fyddai'n defnyddio ceir am bob taith fach yn y dyfodol. Byddwn nhw'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol (e.e. cerdded a beicio) yn ei le bellach a fydd yn helpu'r economi hefyd!

Yn gryno: rydym wedi dweud diolch am eich penderfyniad. Nawr, dwedwch 'croeso'.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Mae deiseb yn bodoli eisoes ar y mater hwn. Ni allwn dderbyn deiseb newydd os oes un yn bodoli eisoes ar fater tebyg iawn, neu os yw’r Pwyllgor Deisebau wedi ystyried deiseb debyg yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Mae deiseb arall sy'n galw am hyn eisoes yn casglu llofnodion:

Rydym am i Lywodraeth Cymru gadw’r gyfraith 20mya ardderchog

Byddech yn fwy tebygol o gael canlyniad ar y mater hwn pe baech yn llofnodi a rhannu’r un ddeiseb.

https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/245612

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi