Deiseb a wrthodwyd Gostwng y dreth gyngor ledled Cymru.

Mae lefel y dreth gyngor ledled Cymru yn mynd dros ben llestri a dyma’r baich ariannol mwyaf ar bobl Cymru erbyn hyn.
Mae cynghorau mawr sydd â chronfeydd wrth gefn enfawr (hyd at £60+ miliwn) yn dal i gynyddu'r dreth gyngor gan sôn eu bod yn wynebu problemau cyllidebol; er bod Aelodau o’r Senedd yn brwydro yn erbyn y cynnydd hwn, mae'r cynghorau'n gwneud fel y maent yn ei ddymuno.

Mae’r cynghorau yn mynd â phob ceiniog sydd gan bobl Cymru, yn ein trin fel cadw-mi-gei ac yn disgwyl i ni barhau i dalu’r dreth chwerthinllyd o afresymol hon.

Rhagor o fanylion

Bellach, mae’n waeth na threth y pen, ac mae’n hen bryd iddi ddod i ben.
Rydym yn talu treth gyngor afresymol o uchel yng Nghymru am wasanaeth annigonol, ac nid oes unrhyw atebolrwydd pan fydd gwasanaethau’n cael eu hamharu neu eu canslo, ond mae disgwyl i chi dalu’r swm llawn o hyd.
Mae'r dreth gyngor bellach, i'r rhan fwyaf ohonom, yn ail forgais, ac i'r bobl sydd eisoes wedi gorffen talu eu morgeisi, maent wedi'u clymu i daliad misol afresymol arall na ellir ei dalu.
Ni ddylid caniatáu i gynghorau sydd â chronfeydd wrth gefn enfawr gynyddu'r dreth gyngor. Mae'n amser i gynghorau ddod at eu coed a sylweddoli na all pobl barhau i dalu pob ceiniog sydd ganddynt.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi