Deiseb Rhoi ffordd liniaru’r M4 ger Twneli Bryn-glas yn ne Cymru ar waith.
Byddai adeiladu’r ffordd liniaru’n helpu Cymru i ffynnu unwaith eto.
Byddai’n lleihau ciwiau ac amseroedd aros o amgylch ardal Bryn-glas.
Rhagor o fanylion
Gwariwyd miliynau ar arolygon ac ar brynu tir yn orfodol, ac yna rhoddwyd stop ar y cyfan heb bleidlais gyhoeddus. Pam?
Mae'r cyhoedd am ddod i Gymru a'i gadael heb orfod ciwio ddwywaith y dydd, bob dydd.
Mae twristiaid yn ailystyried dychwelyd i Gymru am fod twneli Bryn-glas yn draed moch.
Mae Cymru’n dibynnu ar dwristiaeth am refeniw, ond mae pawb yn mynd yn sownd ar ddarn dyddiedig o’r ffordd sydd â’r tagfeydd gwaethaf yng Nghymru.
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon
Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd