Deiseb a wrthodwyd Dylid sicrhau bod blwch ymatal ym mhob un o etholiadau Cymru.

Ym mhob un o etholiadau Cymru, dylid cael blwch ychwanegol ar y papur pleidleisio fel y gallai pobl bleidleisio o blaid “Dim un o’r uchod”.

Rhagor o fanylion

Rwyf wedi pleidleisio mewn 95% y cant o etholiadau gwleidyddol a chyngor, ond rwyf wedi canfod na allaf bob amser gael plaid o ddewis. Hoffwn gael blwch ymatal fel pleidlais o ddiffyg ffydd yn yr hyn sy’n cael ei gynnig.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi