Deiseb a gaewyd Dylid rhoi’r gorau i ddefnyddio’r enw 'Anglesey' a defnyddio’r enw 'Ynys Môn' yn unig neu’r enw byrrach 'Môn'.

Nid oes enw Cymraeg a Saesneg gan rai siroedd eraill yng Nghymru. Mae’n hawdd i bawb ynganu Môn, pa iaith bynnag y mae’n siarad.
Mae dau enw ar gyfer sir yn ddryslyd i dwristiaid, ond bydd un enw yn cadw treftadaeth Gymraeg yn fyw ar yr ynys.

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

2,245 llofnod

Dangos ar fap

10,000