Deiseb a wrthodwyd Dylid cael gwared ar bob twmpath cyflymder a mesurau gostegu traffig o barthau 20 mya.

Gan fod yr holl draffig mewn ardaloedd sydd wedi’u ‘gostegu’ wedi’i gyfyngu gan y terfyn cyflymder 20 mya newydd, nid oes angen mesurau ychwanegol i ostegu traffig. Mae twmpathau cyflymder yn arbennig yn achosi difrod i hongiadau ceir, ac ati.
Dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol ac asiantaethau cefnffyrdd i sicrhau bod hyn yn digwydd.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi