Deiseb a wrthodwyd Dylid lansio ymgyrch genedlaethol i fynd i'r afael â phroblem sbwriel Cymru

Mae sbwriel a thipio anghyfreithlon yn mynd dros ben llestri, ac mae'r costau i'r amgylchedd, a mynd i’r afael â’r broblem, yn frwydr gyson. Mae angen apêl genedlaethol arnom i dargedu’r rheini sy’n taflu sbwriel, ennyn balchder eto yn ein gwlad hardd a helpu i achub y blaned. Dylid gofyn i’r cwmnïau mawr bwydydd cyflym helpu i ariannu'r ymgyrch, a chyfrannu at gostau codi sbwriel. Gellir ailgylchu 95% o sbwriel. Byddai ei godi nid yn unig yn helpu'r amgylchedd, ond hefyd yn helpu cynghorau i fodloni eu targedau ailgylchu.

Rhagor o fanylion

Rwy'n byw yn Sir y Fflint ac mae'r broblem sbwriel dros ben llestri – nid oes gan Gyngor Sir y Fflint amserlenni, hyd yn oed, ar gyfer casglu sbwriel ar unrhyw ffyrdd. >20mya. Mae’r broblem sbwriel yn warth, ac mae angen gwneud rhywbeth.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi