Deiseb a gaewyd Achub ein gwasanaeth bysiau hyblyg, Bwcabus
Gwasanaeth bysiau lleol yw “fflecsi Bwcabus.” Mae’n gwbl hygyrch ac yn gweithredu mewn ardaloedd penodol yng Nghymru gan gynnig cyfuniad o wasanaethau llwybrau sefydlog a siwrneiau y gellir eu harchebu ymlaen llaw. Nod “fflecsi Bwcabus” yw helpu pobl i deithio’n lleol a chysylltu â gwasanaethau bysiau’r brif lein. Rydych yn gofyn i fws eich codi a gall hwnnw newid ei lwybr er mwyn i’r holl deithwyr gyrraedd lle bynnag y mae angen iddynt fynd.
Rhagor o fanylion
Cafodd “fflecsi Bwcabus” ei greu i ddisodli gwasanaethau bysiau cymunedol lleol.
Mae pobl mewn cymunedau gwledig yn dibynnu ar y gwasanaeth hwn i weld y meddyg teulu neu i gyrraedd y gweithle, i fynd i siopa a chwrdd â ffrindiau.
Mae’r gwasanaeth yn rhan hanfodol o’n cymunedau gwledig ac, i lawer, dyma’r unig ffordd y gallant deithio o le i le a bydd nifer o bobl oedrannus yn ynysig iawn os na fydd y gwasanaeth yn parhau.
Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon
Busnes arall y Senedd
Llofnodion ar bapur
Yn ogystal â'r ddeiseb ar-lein, mae'r ddeiseb yma wedi bod yn casglu llofnodion ar bapur ac wedi casglu 1,267 o lofnodion ar bapur.