Deiseb a wrthodwyd Dysgwch CPR ym mhob ysgol uwchradd yng Nghymru

Cafodd fy mhartner (28) ataliad y galon yn ein cartref ar 16 Medi 2023. Mae'n fyw heddiw oherwydd i mi fynd ati ar unwaith i roi CPR iddo. Yn ôl y meddygon, y parafeddygon a’r ymatebwyr cyntaf, fe lwyddais i achub ei fywyd, ac i roi CPR heb achosi unrhyw anafiadau mewnol. Rwy’n credu’n gryf fod hyn i’w briodoli i’r hyfforddiant cymorth cyntaf a gefais ychydig flynyddoedd yn ôl gan Ambiwlans Sant Ioan. Pe na bawn i wedi cael yr hyfforddiant hwnnw, rwy’n gwirioneddol credu na fyddai fy mhartner yma heddiw.

Rhagor o fanylion

Mae'r rhan fwyaf o achosion o ataliad ar y galon (72%) yn digwydd yn y cartref neu’r gweithle (15%). Yn y lleoedd hynny, mae’n bosibl na fydd llawer o bobl wedi cael hyfforddiant cymorth cyntaf.
Bydd cylchrediad digymell yn cael ei adfer (ROSC) mewn tua 30% o ymdrechion i ddadebru’r claf. Gallai hyn fod yn uwch pe bai mwy o bobl yn gwybod sut i roi CPR.
Bydd tua 55 o bob 100,000 o bobl bob blwyddyn yn cael ataliad y galon y tu allan i’r ysbyty.
Canllawiau ERC 2021: https://cprguidelines.eu
Ystadegau allweddol Archwiliad Cenedlaethol Ataliad y Galon. https://www.icnarc.org/DataServices/Attachments/Download/510fe606-a30b-ea11-911e-00505601089b
Cofrestrfa Canlyniadau Ataliad y Galon y Tu Allan i'r Ysbyty. www.warwick.ac.uk/go/ohcao

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi