Deiseb a gwblhawyd Diddymu’r terfyn cyflymder 20mya ar y TRA4076 yn Johnston, Sir Benfro
Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ynghylch gostwng y terfyn cyflymder i 20mya yn nodi y dylid “yn gyffredinol” eithrio ffyrdd dosbarth A a B.
Rhagor o fanylion
Mae’r TRA4076 trwy Johnston, Sir Benfro, yn rhan o’r prif rwydwaith trefol sy’n cysylltu de ein sir â’r ysbyty a’r dref sirol. Mae’n glirffordd drefol heb unrhyw leoedd parcio ar y stryd, llwybrau troed ar y ddwy ochr a dwy groesfan i gerddwyr a reolir gan oleuadau. Nid oes unrhyw gyfiawnhad dros ostwng y terfyn cyflymder ar y darn hwn o’r ffordd i 20mya.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon
Busnes arall y Senedd
Deisebau papur
Yn ogystal â'r ddeiseb ar-lein, mae'r ddeiseb yma wedi bod yn casglu llofnodion ar bapur ac wedi casglu 298 o lofnodion ar bapur.