Deiseb a gaewyd Dylid dirymu Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth Cymru 2022 i 2027

Mae'r ffaith bod y cyfyngiad 20 milltir yr awr wedi'i orfodi'n ddiweddar, a'r gri gyhoeddus yn ei erbyn ar ôl hynny yng Nghymru wedi tynnu sylw pobl at ba mor ddi-alw-amdano yw Cynllun Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru. Mae'r Cynllun ei hun yn ceisio diddymu’n sylweddol drafnidiaeth gerbydol bersonol ar gyfer y mwyafrif o bobl yng Nghymru, heb unrhyw wir reswm dros hynny.

Rhagor o fanylion

Mae’r Cynllun yn gynnig afreal, niweidiol, ac mae’n ymosodiad amlwg ar y Cymry fel pobl a Chymru fel gwlad. Mae MOR fwriadol niweidiol i Gymru fel y gallai ac y dylai gael ei drin fel brad yn erbyn Cymru gan bawb a fu’n ymwneud â’i greu.
Am 12:25 ddydd Sul 24 Medi roedd 414,077 o bobl wedi llofnodi deiseb ar-lein sy’n gwrthwynebu un agwedd yn unig ar y Cynllun, sef parthau 20 mya.

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

714 llofnod

Dangos ar fap

10,000