Deiseb a wrthodwyd Dylid rhoi terfyn ar reolaeth gwmnïau parcio preifat dros barcio ysbytai’r GIG

Er i Lywodraeth Cymru gyhoeddi yn 2018 y byddai parcio’r GIG yn rhad ac am ddim, mae enghreifftiau o hyd o gwmnïau parcio preifat sy’n elwa o gleifion agored i niwed a staff gweithgar y GIG. Dylai Llywodraeth Cymru adolygu'r holl gontractau sy'n weddill gyda chwmnïau preifat, a sicrhau ei fod yn rhoi terfyn arnynt cyn gynted â phosibl.
Mae ParkingEye, cwmni parcio preifat, yn rheoli'r meysydd parcio ar hyn o bryd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Mae'r cwmni hwn yn rhoi nifer sylweddol o ddirwyon, gan wneud y broses apelio’n anodd iawn, a hynny heb ddangos dim tosturi na dealltwriaeth i gleifion a staff.

Rhagor o fanylion

Unig nod unrhyw gwmni preifat yw gwneud elw, ac nid yw ParkingEye yn wahanol yn hynny o beth. Mae eu gwefan yn honni eu bod nhw wedi cael eu cyflogi gan y bwrdd iechyd i sicrhau 'parcio gwell', fodd bynnag maen nhw wedi ei gwneud yn glir mai'r unig nod yw gwneud arian. Fel gweithiwr yn ysbyty Caerdydd a’r Fro, rwyf wedi cael sawl dirwy pan yr oeddwn i’n parcio ar gyfer gwaith, rwyf wedi apelio yn erbyn y rhain i gyd a gwrthodwyd pob un ohonynt. Mae ParkingEye yn diystyru unrhyw resymau ac yn mynnu’r taliad ni waeth beth fo’r sefyllfa. Mae hyn yn wir am nifer di-rif o staff a chleifion/ymwelwyr, sydd yn aml dan straen emosiynol aruthrol pan fyddant yn ymweld, ac mae hyn oll yn cael ei waethygu gan gwmni preifat o ganlyniad i beidio â darllen print mân arwydd. Ni ddylai arian a wneir gan bobl agored i niwed a gweithwyr y GIG fynd i lenwi pocedi cwmni preifat. STOPIWCH ganiatáu i gwmnïau preifat gymryd ein harian. Mae pob un ohonom am gael parcio diogel i’n hysbytai ond mae angen gwneud hyn mewn ffordd deg er mwyn sicrhau ei fod yn diwallu anghenion staff a chleifion.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi