Deiseb a wrthodwyd Gwnewch gyfraith sy’n gwahardd parcio ar balmentydd!
Ers symud i’r Coed-duon, Caerffili, rwyf wedi sylwi cynifer o bobl sy’n parcio ar balmentydd a phalmentydd bloc. Mae'n hynod o anystyriol ac mae’n achosi rhwystr i rieni â bygis, i gadeiriau olwyn, i sgwteri symudedd ac i rieni sy'n cerdded gyda phlant anabl. Mae llwybrau y lled y mae’n nhw am reswm, ac mae eu rhwystro yn achosi problemau i bobl sy'n methu â "cherdded o gwmpas y cerbyd", ac ni ddylai cerddwyr orfod cerdded ar y ffordd oherwydd bod car wedi rhwystro'r llwybr!
Rhagor o fanylion
Rwy'n defnyddio sgwter symudedd ac rwy'n cerdded gyda fy mhlant yn ôl ac ymlaen i'r ysgol bron bob dydd, ond ni allaf wneud hyn yn annibynnol oherwydd rwy'n aml yn cael fy rhwystro gan geir sydd wedi'u parcio naill ai ar y palmant yn LLAWN neu "yn bennaf" ar y palmant. Yna mae'n rhaid i mi fynd am yn ôl nes gallaf ddod o hyd i ymyl palmant isel. Nid yw'n hawdd, yn enwedig ar y llwybrau llai. Ni allaf gamu i lawr ac, yn syml, gerdded rownd y cerbyd. Byddwn yn rhoi unrhyw beth i fedru gwneud hynny unwaith eto! Allwn ni i gyd ddiogelu'r palmentydd a chreu deddf sy'n datgan "Ni all unrhyw gerbydau, oni bai eu bod yn gerbydau brys, barcio ar balmentydd"! Wedi'r cyfan, mae'r Llywodraeth wedi gofyn i ni ddechrau cerdded rhagor, a defnyddio ceir yn llai aml, felly gadewch i ni ddarparu lle i wneud hyn! Felly llofnodwch bawb, a chael ein palmentydd yn ôl ar gyfer cerddwyr, bygis, cadeiriau olwyn a sgwteri symudedd! Diolch am ddarllen y ddeiseb :)
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi