Deiseb a wrthodwyd Ei gwneud yn orfodol i leoliadau addysg addysgu a phrofi gwybodaeth am Reolau’r Ffordd Fawr.

I leihau costau i’r GIG ac fel dewis amgen yn lle’r ymatebion byrbwyll o ran deddfau diogelwch, fel y’u gelwir (gweler y gostyngiadau i’r terfyn cyflymder), gan wleidyddion, dylid dysgu plant i ddefnyddio a chroesi ffyrdd yn ddiogel. Bydd y plant hyn yn oedolion ryw ddydd, felly byddai cymryd y cam hwn yn lleihau nifer y marwolaethau ac anafiadau ar y ffyrdd a chilffyrdd yn sylweddol, gan arbed arian i’r GIG a chreu priffyrdd a chilffyrdd diogel drwy addysg yn hytrach na gorfodi gostyngiadau di-sail i’r terfyn cyflymder ynghyd â dirwyon.

Rhagor o fanylion

Cynigiaf y dylai fod yn orfodol addysgu a phrofi gwybodaeth am Reolau’r Ffordd Fawr mewn ysgolion. Byddai cymryd y cam hwn yn gwella diogelwch ar y priffyrdd a'r cilffyrdd. Byddai gan gerddwyr a beicwyr ddealltwriaeth glir o sut i ddefnyddio'r ffordd yn ddiogel heb beryglu neu rwystro cerddwyr neu gerbydau. Byddai gan feicwyr gyfarwyddiadau clir o ran yr hyn a ganiateir a’r hyn ni chaniateir iddynt ei wneud ar y ffyrdd a’r llwybrau. Byddai rheolau’r ffordd fawr hefyd yn dangos y ffordd gywir o ryngweithio â cherbydau, yn ogystal â sut i ddefnyddio llwybrau a ffyrdd yn ddiogel, sut i groesi ffyrdd yn gyfreithlon ac yn ddiogel, sut i wisgo’n briodol i fod yn weladwy gan holl ddefnyddwyr y ffyrdd a sut i symud ar hyd y priffyrdd a’r cilffyrdd tra’n cydymffurfio â’r gyfraith. Mae gwneud modurwyr yn gyfrifol am weithredoedd anwybodus, anghyfreithlon neu wirion unigolion eraill yn anghywir. Mae'n bryd rhoi terfyn ar ddiwylliant sy’n dweud bod “y modurwr bob amser yn euog”, sy'n cael ei orfodi ar y boblogaeth.
Byddai ei gwneud yn orfodol i leoliadau addysg addysgu a phrofi gwybodaeth am Reolau’r Ffordd Fawr yn gwneud ein ffyrdd yn llawer mwy diogel.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi