Deiseb a wrthodwyd Dylid rhoi’r gorau i adeiladu llwybrau beicio ac adfer y ffyrdd

Mae llwybrau cyfun i gerddwyr a beicwyr yn cael eu creu ledled y wlad ond nid yw beicwyr yn eu defnyddio.
Nid yw llwybrau cyfun yn gweithio am fod gormod o risg o daro cerddwyr ac mae llawer o gyrbau isel ac arwynebau gweadog. Nid yw hyn yn gyfleus i feicwyr.

Rhagor o fanylion

Yn lle gwastraffu arian trethdalwyr ar lwybrau cerdded enfawr, beth am drwsio ac ehangu’r ffyrdd sy’n bodoli eisoes sydd mewn cyflwr ofnadwy? Byddai hynny o fudd i feicwyr a modurwyr, a byddai’n costio llai hefyd.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi