Deiseb a wrthodwyd Addysgu Iaith Arwyddion Prydain sylfaenol yn ystod addysg orfodol

Mae BSL (Iaith Arwyddion Prydain) yn cael ei defnyddio'n bennaf gan bobl fyddar, pobl sydd â nam ar eu clyw a phobl mud. Fodd bynnag, mae hefyd yn fuddiol i blant awtistig ac i bob plentyn wrth ddysgu Saesneg. Drwy gynnwys BSL sylfaenol, byddai'n ehangu nifer y bobl sy'n gallu cyfathrebu gyda'i gilydd ac yn agor mwy o ddrysau i'r rhai sydd ar y cyrion. Nid ar gyfer TGAU yn unig y mae hyn oherwydd bydd yn helpu pob myfyriwr, yn enwedig y rhai iau.

Rhagor o fanylion

Yn ôl Sign Solutions UK mae dros 150,000 o bobl yn y DU yn defnyddio BSL fel eu hiaith gynradd neu eu hiaith o ddewis. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth y DU yn gweithio ar sicrhau bod BSL ar gael fel TGAU ond mae'n haws dysgu iaith yn iau a bydd yn gwneud cymdeithas yn fwy hygyrch o lawer.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi