Deiseb a wrthodwyd Dylid cynyddu cyllid i adeiladu cyrtiau pêl-fasged yng Nghymru.
Cyfyng iawn yw mynediad chwaraewyr pêl-fasged yng ngogledd Cymru at gyrtiau pêl-fasged awyr agored rhad ac am ddim. Mae llogi cyrtiau dan do yn ddrud iawn, ac felly byddai adeiladu cyrtiau mewn trefi fel Treffynnon o fudd mawr i’r gymuned, yn tyfu’r gamp ac yn cynnig lle i chwarae i bobl na allant fforddio llogi cwrt dan do.
Rhagor o fanylion
Yn Sir y Fflint, dim ond un cwrt awyr agored sydd gennym, a hwnnw yn y Fflint. Dim ond cwrt bach ar gyfer pêl-droed a phêl-fasged ar y cyd sydd yn y Rhyl, Sir Ddinbych.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi