Deiseb a gaewyd Cyflwyno terfyn cyflymder o 30mya ar y gefnffordd trwy bentrefi Eglwys-fach a Ffwrnais

Mae llawer o ardaloedd preswyl yng Nghymru bellach yn elwa ar derfyn cyflymder o 20mya, gyda rhesymeg gref gan Lywodraeth Cymru ar sail tystiolaeth. Nid ydym yn teimlo ei bod yn ddiogel i’n pentrefi – Eglwys-fach a Ffwrnais – barhau i ddioddef terfyn cyflymder o 40mya.
Rydym wedi bod yn ymgyrchu i wneud y pentrefi yn fwy diogel i gerddwyr ers dros 30 o flynyddoedd, gyda dwy farwolaeth yn ystod y cyfnod hwnnw. Rydym am i Lywodraeth Cymru adolygu’r terfynau cyflymder o 40mya drwy’r pentrefi i alluogi trigolion i gerdded yn ddiogel ac i wella llesiant.

Rhagor o fanylion

Saif y pentrefi ar yr A487. Nid oes palmant ar hyd y rhan fwyaf o’r ffordd, felly mae’n rhaid i’n trigolion, gan gynnwys plant a phobl ifanc sy’n dal bysiau ysgol, trigolion sy’n ymweld â chymdogion neu’n mynd i ddigwyddiadau, a phentrefwyr hŷn sy’n dal y bws, i gyd gerdded ar yr A487 ei hun. Mewn rhai mannau, nid oes digon o le ar y ffordd i ddau gar basio ei gilydd, felly mae'n rhaid i fodurwyr arafu a dod i stop i osgoi’r cerddwyr hyn.
Mae sail resymegol Llywodraeth Cymru ar gyfer y terfyn cyflymder o 20mya drwy ardaloedd preswyl fel a ganlyn: “Mae’r dystiolaeth ledled y byd yn glir iawn - bydd gostwng cyflymder yn arbed gwrthdrawiadau, arbed bywydau a lleihau anafiadau - gan helpu i wella ansawdd bywyd a gwneud ein strydoedd a’n cymunedau lleol yn fwy diogel i bawb.”

O ystyried y dystiolaeth, teimlwn yn gryf iawn y dylai’r terfyn cyflymder trwy bentrefi Eglwys-fach a Ffwrnais gael ei adolygu a'i ostwng o 40mya.

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

419 llofnod

Dangos ar fap

10,000