Deiseb Dileu’r gofyniad i ffermwyr gael o leiaf 10 y cant o orchudd coed i allu manteisio ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd.
Mae Llywodraeth Cymru yn dylunio cynllun newydd i gefnogi ffermwyr, sef y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Y Cam Gweithredu Cyffredinol mwyaf dadleuol sy’n rhaid ei gymryd i ymuno â’r cynllun hwn yw’r gofyniad i ffermwr gael o leiaf 10 y cant o orchudd coed, heb gynnwys perthi, yn ogystal â 10 y cant o gynefin. Am amryw resymau, ni all llawer o ffermwyr blannu coed ar 10 y cant o'u tir. Dylid gostwng canran y gorchudd coed sy’n ofynnol i allu manteisio ar y cynllun i lefel gyraeddadwy er mwyn caniatáu i gynifer o ffermwyr â phosibl ymuno ag ef.
Rhagor o fanylion
Bydd lleihau arwynebedd y tir ffermio cynhyrchiol yn golygu bod llai o fwyd yn cael ei gynhyrchu. Bydd hyn yn effeithio ar bob diwydiant sy'n gwasanaethu'r sector amaethyddol.
Bydd lefel isel o ddefnydd o'r cynllun yn niweidiol i economi wledig Cymru. Bydd llawer o ffermwyr sy'n cael taliadau gan Gynllun y Taliad Safonol ar hyn o bryd, ond sydd ddim yn gymwys i gael taliadau gan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, yn ei chael yn anodd goroesi.
Gellid cynnwys y lefelau uwch o orchudd coed yn y Camau Gweithredu Dewisol.
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon
Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd