Deiseb a gaewyd Dylid creu cynllun traffig cynaliadwy ar gyfer Dyffryn Rhiangoll

1. Lleihau’r terfyn cyflymder drwy bentref Cwmdu i 30 mya ac 20 mya heibio i'r dafarn, y tai a'r maes chwarae.
2. Gorfodi rheoliadau ynghylch sŵn egsôst a gosod camerâu monitro a gorfodi ar ddau ben yr A479.
3. Creu terfyn pwysau ar hyd y ffordd yn ei chyfanrwydd i sicrhau na fydd dirgryniadau o gerbydau nwyddau trwm yn achosi rhagor o ddifrod i adeiladau hanesyddol.
4. Creu llwybrau ar gyfer dulliau teithio iach ac amgylcheddol gynaliadwy fel cerdded a beicio.

Rhagor o fanylion

Caiff Dyffryn Rhiangoll ei wasanaethu gan briffordd yr A479 sy'n mynd o'r de i'r gogledd, gan ddechrau yng nghyffordd Nant y Ffin ger Crucywel a gorffen yn Nhalgarth.
Mae'r ffordd droellog a'r golygfeydd godidog yn denu beiciau modur a cheir yn yr haf, sydd yn aml yn goryrru ac yn creu sŵn mawr am gyfnodau parhaus oherwydd yr egsôsts stwrllyd.
Prin iawn yw’r cyfleoedd ar gyfer teithio cynaliadwy ar yr A479, er enghraifft ar feic, oherwydd cyflymder y traffig a’r ffaith bod nifer o gorneli cudd ar y ffordd. Cafwyd cwynion am ddifrod i adeiladau a achoswyd gan ddirgryniadau o’r cerbydau nwyddau trwm sy’n teithio drwy'r pentrefi a heibio i dai sydd yn ymyl y ffordd. Nid oes llawer o gyfleoedd i orfodi terfynau cyflymder yn y ffyrdd traddodiadol a chyfarwydd oherwydd topograffi’r ffordd.
Mae'r preswylwyr yn mynnu camau gweithredu i fynd i’r afael â goryrru, sŵn egsôsts a cherbydau nwyddau trwm. Mae'r preswylwyr hefyd yn mynnu ffyrdd diogel a chynaliadwy o deithio o gwmpas eu cymunedau a rhyngddynt.

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

258 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Busnes arall y Senedd

Llofnodion ar bapur

Yn ogystal â'r ddeiseb ar-lein, mae'r ddeiseb yma wedi bod yn casglu llofnodion ar bapur ac wedi casglu 11 o lofnodion ar bapur.