Deiseb a wrthodwyd Dylid cyflwyno system galw heibio i wneud apwyntiadau Meddyg Teulu, er mwyn atal amseroedd aros 1 awr ar y ffôn
Rwy’n cychwyn y ddeiseb hon oherwydd bob tro rwy’n galw’r feddygfa, mae’n cymryd awr i fynd drwodd ac yna does dim apwyntiadau ar ôl.
Fy nghynnig i yw i Llywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau yn annog meddygfeydd i ganiatáu i bobl alw heibio i wneud apwyntiadau yn ogystal â dros y ffôn.
Rhagor o fanylion
Mae’r profiad hwn yn digwydd gyda llawer o feddygfeydd, mae'n amhosib cael apwyntiad ar y diwrnod, ac ni allwch drefnu apwyntiad ar gyfer eich diwrnod i ffwrdd o’r gwaith.
Mae'n amlwg nad yw'r system yn gweithio.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi