Deiseb Dylid diwygio Bil Diwygio'r Senedd i ddarparu bod etholaethau'n cael cymeradwyo codiadau cyflog yr Aelodau o'r Senedd
Rydym yn galw ar y Senedd i ddatblygu a sefydlu system gymeradwyo ar gyfer pob codiad cyflog a ddyfernir i’r Aelodau ac i’r weithdrefn hon gael ei hymgorffori ym Mil Diwygio’r Senedd.
Drwy wneud hyn, byddai unrhyw godiad cyflog a argymhellir gan y Bwrdd Taliadau yn mynd gerbron etholwyr pob Aelod ar gyfer pleidlais rwymol i gymeradwyo neu wrthod rhoi’r codiad cyflog cytunedig i’w Haelodau unigol, a hynny ar sail eu perfformiad fel cynrychiolwyr da.
Byddai’r system hon yn cael ei defnyddio ar gyfer cynrychiolwyr etholaethol a chynrychiolwyr rhanbarthol.
Rhagor o fanylion
Byddai’r system a ddisgrifir uchod yn caniatáu i’r etholwyr roi adborth clir ac effeithiol i’r Aelodau drwy gyplysu codiadau cyflog yr Aelodau â’u perfformiad gwirioneddol wrth wasanaethu er budd eu pleidleiswyr, a byddai hefyd yn arbed arian i gyllideb Cymru!
Gellid cynnal y bleidlais ar-lein i arbed costau ymhellach i gyllideb Cymru.
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon
Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd