Deiseb a gaewyd Gosodwch gylchfan, nid goleuadau traffig, yng Nghyffordd angheuol Nash, Sir Benfro.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo gosod goleuadau traffig yn lle cylchfan ar gyffordd angheuol Nash yn Sir Benfro, yn dilyn nifer o wrthdrawiadau a marwolaeth beiciwr modur ifanc.

Cylchfan - Mae llawer o drigolion Sir Benfro, yn ogystal â’r Cyngor, yn teimlo y byddai cylchfan yn fwy priodol, o ystyried traffig Irish Ferry ac mai dyma'r brif ffordd ar gyfer de’r sir.

Rhagor o fanylion

Mae Cyngor Sir Penfro yn teimlo byddai cylchfan yn ateb mwy priodol, fel y mae llawer o drigolion Sir Benfro, ond gwrthododd Llywodraeth Cymru eu cais am gylchfan, gan gymeradwyo goleuadau traffig ar gyfer y gyffordd yn lle hynny.

Bydd goleuadau traffig yn achosi oedi mawr i ddinasyddion y sir sy’n gweithio ac yn teithio. Byddai cylchfan yn fwy priodol, ac mae tir eisoes wedi ei gymeradwyo gan y cyngor lleol ar gyfer y datblygiad.

Hoffem ddeisebu i osod cylchfan mwy priodol sy’n cael cefnogaeth y gymuned.

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

439 llofnod

Dangos ar fap

10,000