Deiseb a gaewyd Cefnogi plant byddar trwy wneud ymrwymiad ariannol i adfer niferoedd athrawon plant byddar
Mae athrawon plant byddar yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi datblygiad iaith plant byddar a’u datblygiad o ran cyfathrebu. Maent yn rhoi cyngor i deuluoedd plant byddar, yn ymweld â’r plant yn yr ysgol neu’r coleg, gan gefnogi eu haddysg, ac yn rhoi arweiniad i athrawon prif ffrwd ar ymwybyddiaeth o fod yn fyddar.
Ond mae Cymru wedi colli un o bob pump o’i hathrawon plant byddar ers 2011. Mae tua 2,300 o blant byddar yng Nghymru.
Rwy'n fam i Lola, sy’n bum mlwydd oed ac yn hollol fyddar, a Rudi, sy’n ddwy oed ac yn ddifrifol fyddar.
Rhagor o fanylion
Mae angen cymorth parhaus ar blant byddar sy'n byw ym myd pobl sy’n clywed. Ond, ar hyn o bryd, mae Lola a Rudi yn cael dim ond awr o gefnogaeth yr wythnos gan athro plant byddar. Dros flwyddyn, yn ystod amser ysgol, mae hynny’n rhoi cyfanswm o 37 awr, sy’n llai na fy wythnos waith. Rwy’n credu y dylai pob plentyn byddar weld athro plant byddar o leiaf unwaith yr wythnos, ni waeth pa mor fyddar ydyw.
Mae Lola mewn ysgol gynradd brif ffrwd, sy’n iawn iddi hi, ond pe bai hi mewn darpariaeth arbennig, byddai’n gweld arbenigwyr a phlant byddar eraill bob dydd. Mae ei chynnydd yn uchelgeisiol, ond os yw’r dechnoleg yn methu, ychydig iawn sydd gennym wrth gefn.
Rwy’n credu bod taer angen hefyd i ddarparu cymorth sydd wedi’i dargedu’n fwy ar rieni plant byddar. Mae dros naw o bob 10 plentyn byddar yn blant i rieni sy’n clywed sydd heb unrhyw brofiad o beth mae’n ei olygu i fod yn fyddar. Pan wnaethom ddysgu bod Lola yn fyddar, roeddwn i mewn sioc. Ar ben hynny, roeddwn yn anymwybodol o’m diffyg gwybodaeth llwyr am faterion pobl fyddar.
Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon