Deiseb a gwblhawyd Dylid cynnal pôl piniwn cyhoeddus ledled Cymru i ddangos gwir lefel cefnogaeth y cyhoedd i’r terfyn cyflymder 20mya.
Mae barn y cyhoedd ar y cyfryngau cymdeithasol a’r cyfryngau prif ffrwd bellach yn dangos bod y mwyafrif helaeth o bobl Cymru yn gwrthwynebu’r terfyn cyflymder 20mya newydd yn chwyrn. Fodd bynnag, er gwaethaf hyn, mae Llywodraeth Cymru yn mynnu bod ganddi gefnogaeth y mwyafrif. Mae arolygon swyddogol hyd yma yn cynnwys niferoedd hynod gyfyngedig o bobl mewn ardaloedd penodol ac ni ellir ystyried eu bod yn gynrychioliadol o deimladau holl bobl Cymru o gwbl.
Erbyn hyn, y farn gyffredin yw bod y gefnogaeth honedig hon yn achos o gamddefnyddio ystadegau yn unig.
Rhagor o fanylion
Nid oes gan y cyhoedd ffydd yn yr honiadau hyn mwyach ac, er lles hygrededd, mae angen inni gael gwir ddarlun o’r sefyllfa.
Yn fy marn i, mae gwrthod caniatáu i bobl Cymru leisio’u barn ar rywbeth sy’n cael effaith mor aruthrol ar bob agwedd ar eu bywydau yn annemocrataidd, yn awdurdodaidd ac yn sarhaus o ddiystyriol o’r bobl. Mae’n rhaid bod yn gwbl agored a gonest ynghylch lefel y gefnogaeth wirioneddol i’r terfyn cyflymder 20mya hwn, a dim ond drwy roi’r cyfle i holl bobl Cymru ddweud eu dweud y gellir cyflawni hyn.
Pôl piniwn cyhoeddus ledled Cymru yw’r unig ffordd ddemocrataidd o ddangos i Lywodraeth Cymru a phoblogaeth Cymru y tu hwnt i bob amheuaeth beth yw gwir lefel y gefnogaeth.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon